top of page

Mae Bloc-len yn cynnig addasiad arloesol i’r lamplen silindr gan ddefnyddio dyluniad bachyn a rhigol sy'n osgoi’r angen am lud neu blastig wrth ei roi at ei gilydd. Mae pedair tudalen o bapur (dau dryloyw a dwy afloyw) yn cael eu gweu gyda'i gilydd hefo nodwyddau papur cyn eu bachu at ffrâm pren-ply.

 

Bydd Bloc-len yn dod â chynhesrwydd a soffistigedigrwydd i'ch cartref, boed yn yr ystafell wely, ystafell fyw, neu ystafedd astudio. Mae'r dyluniad geometrig yn uno'r ffrâm a'r lamplen papur mewn arddull cyfoes a finimalaidd, sydd hefyd yn addurnol.

 

Mae delwedd orffenedig y lamplen wedi ei gyfoethogi gan y papur patrymog allanol, wedi'i wneud o fwydion di-glorin (ardystiwyd gan yr FSC) a grawn bragwr wedi'i ailgylchu. Mae'r nodwyddau papur wedi'u gwneud o 100% o bapur cywarch ac yn ychwanegu manyldeb addurniadol tra’n bod yn ymarferol.

 

Cynnwys y pecyn

1 x lamplen papur  

2 x nodwydd papur 

1 x ffrâm pren-ply

1 x taflen gyfarwyddiadau ar gyfer creu, gosod a defnyddio’r lamplen

 

Dimensiynau

diamedr cylch mewnol: 3 cm

diamedr y lamplen gyfan: 24.5 cm

hyd y lamplen: 29.5 cm

 

Pa fath o fwlb golau a gosodiad sydd eu hangen?

Mae Bloc-len wedi ei greu ar gyfer gosodiadau a bwlbiau nenfwd, unai gyda Edison Screw E27 neu Bayonet Cap B22d. Rydym yn argymell defnyddio bylbiau LED 6- i 9-wat. Nid oes bwlb nag gosodiadau trydanol yn y pecyn.
 

Diogelwch tân

Mae'r ffrâm pren-ply wedi'i drochi mewn hylif gwrth-dân. Mae bwlch o leiaf 8cm rhwng y silindr-papur a'r bwlb, os defnyddir bwlb LED 6cm o led (neu lai).

 

Ail-gylchu

Gellir ailgylchu’r lamplen papur a’r nodwyddau cywarch yn eich bin ailgylchu cartref, a gellir mynd â’r ffrâm pren-ply i Ganolfan Ailgylchu leol (cyngor i drigolion y DU yw hwn; edrychwch am yr opsiynau ailgylchu perthnasol yng ngwledydd eraill).

Bloc-len

£45.00Price
  • Lamplen papur, gwyn hefo gwead naturiol, silindr, eco-gyfeillgar, ail-gylchadwy, unigryw - ar gyfer eich ystafell wely, ystafell fyw neu ystafell astudio.

bottom of page